Memyn rhyngrwyd

Defnyddir y term memyn rhyngrwyd i gyfeirio at gysyniad sy'n ymledu ar draws y rhyngrwyd.

Mae memynnau yn ffenomenau firaol a ledir gan eu bod yn cael eu hystyried yn ddiddorol, yn ddoniol, neu fel arall yn haeddu sylw, hyd yn oed os ydynt yn ddadleuol neu'n bryfoclyd, megis fideo'r gân "Friday" a ganir gan Rebecca Black. Caiff dolenni at femynnau eu rhannu gan ddefnyddwyr y rhyngrwyd trwy e-bost, negeseua sydyn, fforymau a negesfyrddau, rhwydweithio cymdeithasol ar-lein, a chymunedau ar-lein eraill.

Mae gwefannau a gysylltir â memynnau yn cynnwys 4chan, Digg, a reddit. Mae YouTube yn gartref i nifer fawr o fideos firaol, megis y fideo ar gyfer y gân "Never Gonna Give You Up" gan Rick Astley a ddefnyddir fel jôc baetio-a-newid o'r enw "Rickrolling".


Developed by StudentB